Ymunwch â ni ar gyfer ein rhifyn Nadoligaidd o Glwb Llyfrau Oriel Myrddin lle byddwn yn cael trafodaeth gyfeillgar ac anffurfiol dan arweiniad Kirsten Hinks-Knight.
Ochr yn ochr â’n harddangosfa hydref/gaeaf Y Bwrdd // The Table, byddwn yn darllen On Beauty gan yr awdur enwog Zadie Smith. Yn unol â theyrnged Y Bwrdd i fywyd llonydd Iseldiraidd, mae On Beauty yn deyrnged gyfoes i Howard’s End gan E. M. Forster, sy’n dilyn cymhlethdodau gwleidyddiaeth deuluol yn Lloegr Newydd.

‘Glorious. Wonderfully engaging, wonderfully observed…that rare thing: a novel that is as affecting as it is entertaining’ – New York Times
‘Ambitious, hugely impressive, beautifully observed’ – The Guardian

Darperir mins peis a bara sinsir am ddim ac mae croeso i bawb.