Didrugaredd a hardd: mae nofel newydd Meredith Miller, ‘Cold Grace’, yn gampwaith sy’n drawiadol o iasoer.

Mae Honno yn falch o gyflwyno ‘Cold Grace’ gan yr awdur uchel ei bri, Meredith Miller. Mae Miller yn tywys darllenwyr i dirwedd aeafol ddidrugaredd New England ar ddechrau’r 20fed ganrif a chymuned ar ymylon cymdeithas.

Stori am oroesi a dynoliaeth, mae Miller yn ymdrin â themâu anabledd, ewgeneg a bywyd gwledig mewn stori am ddod i oed a fydd yn gadael darllenwyr yn fyr eu hanadl, yn amddifad ac wedi’u hudo. Mae gaeaf yn amgáu cwm yn New England ac mae hanes treisgar ar fin cael ei ailadrodd. Mae Eddie a Jeanne eisoes wedi’u cysylltu gan orffennol treisgar ac erchyll; a hwythau ar drothwy oedolaeth, mae hanesion eu teuluoedd yn cael eu datgelu mewn stori mor iasoer a thywyll â gaeaf llym New England.

Nofel hanesyddol sy’n archwilio problemau modern. Yn ôl Miller, mae ‘Cold Grace’ yn gofyn cwestiynau sy’n berthnasol heddiw, ac sy’n cael eu trafod gan lawer o bobl – gwladychiaeth, ffiniau cenedlaethol, rhyddid atgenhedlu. Gan gyfuno ei phrofiadau ei hun, rhai’r presennol a’r gorffennol, drwy ‘Cold Grace’, mae Miller wedi creu campwaith llenyddol a fydd yn cyfareddu darllenwyr ffuglen hanesyddol a llenyddol.

Ganwyd a magwyd Meredith Miller ar Long Island, Efrog Newydd. Cyn symud i’r DU ym 1997, bu’n byw ar y traeth yn Oregon am ychydig, ac yna am gyfnod hwy yn New Orleans. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel o’r blaen, ‘Little Wrecks’ (2017) a ‘How We Learned to Lie’ (2018). Mae hi’n byw yng nghanolbarth Cymru mewn tŷ bach gyda chapel drws nesaf iddo. A hithau’n ddysgwr Cymraeg, mae Meredith wrthi’n adfer y capel fel gofod llenyddol a diwylliannol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, ‘Fall River,’ gan Honno yn 2024.