W4W &Wales PEN Cymru yn cyhoeddi
Noson o adloniant rhyngddiwylliannol
Cerddi , cerddoriaeth a monolog

Gan gynnwys:
Awdur o Wcrain sydd mewn lloches yng Nghymru
Sgriptwraig nodedig
Larysa Martseva
gyda:
Taz Rahman
Angharad Jenkins
ac
Emma Baines

Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid, gall y gynulleidfa ymuno ar lein neu yn yr Amgueddfa.

Mae PEN rhyngwladol yn sefydliad bydeang o ysgrifenwyr, a sefydlwyd yn 1921, er mwyn hyrwyddo cyfeillgarwch a chydweithio deallusol ymysg ysgrifenwyr ymhob man. Hwyrach mai ei nod pennaf yw ymgyrchu dros ryddid mynegiant gan weithredu fel llais grymus ar ran ysgrifenwyr sy’n cael eu plagio, eu carcharu neu weithiau eu lladd am eu safbwyntiau.

Mae gan sefydliad Rhyngwladol PEN ganolfannau annibynnol mewn cant a hanner o wledydd gan gynnwys Cymru.

Dymunwn ddathlu a chroesawu awduron sydd wedi ceisio cael lloches yng Nghymru gan ddod i wybod am natur cyfoes ac amrywiol diwylliant Cymru. Mae hyrwyddo’r gwerthoedd hyn yn rhan o uhelgais Wales PEN Cymru a’r digwyddiad wedi ei drefnu er mwyn recriwtio unigolion sy’n rhannu yr un delfrydau â’r mudiad a dod yn aelodau o’r gymdeithas.

Mae’r ffi mynediad ar delerau talu- yr -hyn- a- allwch rhwng £5 a £15 . Pa docyn bynnag a gewch, bydd yn cael ei ystyried fel taliad llai ar gyfer aelodaeth blwyddyn i Wales PEN Cymru pe byddech yn dymuno hynny.

Am ragor o fanylion am y digwyddiad – ebost:dominic@write4word.org
Gallwch hefyd brynu tocyn gyda’r linc hwn