Ymunwch â Llŷr Titus, y dramodydd a’r awdur o Lŷn, sydd newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion, Pridd (Gwasg y Bwthyn, 2022). Bydd Llŷr yn archwilio’r her o gychwyn ysgrifennu nofel, o ddod o hyd i’r syniad unigryw hwnnw sydd am gario’r darllenydd o’r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd. Byddwn yn archwilio technegau a thriciau i ddod o hyd i’r syniad hwnnw, ac yn eich gyrru i’r byd ar ddiwedd yr awr â pheth clem ar sut i fynd ati i gychwyn ar y gwaith. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol. 

Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.