Ymunwch â Grug Muse i archwilio dulliau o ysgrifennu am fyd natur yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Gan ganolbwyntio ar ffurf yr ysgrif, bydd y sesiwn hon yn gyfle i archwilio ffyrdd gwahanol o ysgrifennu am y byd o’n cwmpas, boed yn fywyd gwyllt mewn dinas, neu fynydd mewn parc cenedlaethol, a hynny nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.