A hoffet ti ddysgu sut i gynganeddu? Am ganrifoedd roedd crefft y beirdd yng Nghymru yn cael ei galw’n ‘gyfrinach y beirdd’, ond nid cyfrinach yw hi heddiw!


Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i ddysgu’r rheolau ac i wybod mwy am hanes a datblygiad y grefft. Nid dim ond system sy’n ateb cytseiniaid ac yn odli’r fewnol yw’r gynghanedd, ond dull o greu barddoniaeth sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi ganrifoedd yn ôl.

Gan ddechrau ar 16 Ebrill, rhwng 2:00-3:30pm, bydd 9 sesiwn, byw ar-lein i gyd!


Beth well na chael hwyl yn adnabod crefft anhygoel sy’n gwbl unigryw i’r iaith Gymraeg?

 I archebu lle: Current Courses  : Lifelong Learning , Aberystwyth University