Bydd yr awdur o Gymru ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2017, Alys Conran, yn darllen o’i nofel gyntaf Pigeon, a’i hail nofel Dignity, ac yn trafod cefndiroedd y cyfrolau a’r hyn a ddylanwadodd arni i’w hysgrifennu.

Enillodd Pigeon (Parthian Books) Wobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2019 ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Enillodd hefyd Wobr Ffuglen Rhys Davies, Wobr People’s Choice Wales Arts Review, ac fe gyrhaeddodd restr hir yr Author’s Choice First Novel Award. Cyhoeddwyd ei hail nofel, Dignity gan Weidenfeld and Nicolson yng ngwanwyn 2019.

Mae Alys hefyd yn ysgrifennu ac wedi cyhoeddi cerddi, straeon byrion, cyfieithiadau a thraethodau ac ysgrifau creadigol. Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg mae hi’n siarad Sbaeneg a Chatalaneg, ac mae’n ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r digwyddiad hwn yn ffrwyth cydweithio rhwng y Literary Field Kaleidoscope, the Centre for British Studies, Llenyddiaeth Cymru a British Council Cymru. Mae croeso i bawb.