Ymunwch â Iola Ynyr a Carys Davies, enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025 i drafod eu cyfrolau buddugol ac i drafod effaith cipio’r brif wobr genedlaethol ar eu gyrfaoedd fel awduron. Bydd cyfle i drafod eu datblygiad a’u taith fel awduron, a holi sut mae mynd ati i ysgrifennu a chyhoeddi cyfrol sy’n haeddiannol o deitl Llyfr y Flwyddyn. Bydd hwn yn gyfle i edrych yn ôl yn ar yr haf braf, yn gyfle arall i ddathlu camp Iola a Carys, a thrafod sut all y byd ysgrifennu yng Nghymru baratoi awduron i gyrraedd uchafbwynt fel cipio gwobr o’r fath a chynrychioli llenyddiaeth ein cenedl ar fap y byd.

Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd 

Archebu eich lle