Noson dairieithog o farddoniaeth gan leinyp gwych o feirdd i ddathlu cyhoeddi ‘Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi’, pamffled cyntaf Llio Elain Maddocks o farddoniaeth. Yn ymuno â Llio bydd Ciara Ní É, Elen Ifan, Jaffrin, Mari Elen, a Taylor Edmonds.

Tiwniwch i fewn i Instagram Live @cylchgrawn_y_stamp am 8pm nos Iau 27 Mai. Digwyddiad am ddim i bawb gyda’r cyfle i wneud cyfraniad o’ch dewis at dâl y perfformwyr.