Dilynwch Eich Llwybr Barddonol
Ymunwch â’r bardd a’r dramodydd Cymreig nodedig, Menna Elfyn, ar gyfer gweithdy barddoniaeth creadigol sy’n ysgogi’r meddwl yn Amgueddfa Sir Gâr.
Gan ddefnyddio detholiad o gerddi fel sbardunau ac ysbrydoliaeth, bydd Menna yn arwain y cyfranogwyr ar daith agored drwy iaith, dychymyg a mynegiant personol. Mae’r gweithdy hamddenol a chroesawgar hwn yn cynnig lle i ysgrifennu, gwrando, myfyrio ac ymateb yn eich ffordd eich hun. Gallwch ddewis rhannu eich gwaith gydag eraill, neu fwynhau’r profiad yn dawel ac yn breifat.
Gall barddoniaeth ddal eiliad, trawsnewid atgof, a datgelu cysylltiadau annisgwyl. Fel y dywed Menna, mae’n “air mewn amser” – cyfle i synnu ac i gael eich synnu, ac i “ddal y galon yn annisgwyl”, yn ôl geiriau Seamus Heaney.
Nid oes angen unrhyw brofiad ysgrifennu blaenorol. Dewch â llyfr nodiadau, meddwl agored, a pharodrwydd i archwilio i ble gall geiriau eich arwain.
Cynhelir un sesiwn ar Dydd Sadwrn 28 Tachwedd am 10yb i 12:30yp. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig i 15 o bobl, felly mae angen archebu lle ymlaen llaw.. Mae gofalwyr yn mynd am ddim (ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd gofalwr yn dod).
Cynhelir y gweithdy yn Saesneg, ond mae croeso mawr i’r rhai sy’n dymuno ysgrifennu yn Gymraeg.
Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw am £8.50 ynghyd â ffi archebu o 7% a TAW, a godir gan Ticketsource.