
Diwrnod Agored yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Bydd Canolfan Ysgrifennu Genedlaetho Tŷ Newydd yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd ar 27 Medi, fel rhan o raglen Drysau Agored CADW.
Bydd y Diwrnod Agored yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr ddarganfod yr eiddo rhestredig Gradd II* a’i erddi, gan ddysgu am hanes cyfoethog yr adeilad a’i rôl fel canolfan i ysgrifennwyr.
Bydd yr awdur a’r cyflwynydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol dwyieithog addas i bob oed, o blant a theuluoedd i ysgrifennwyr mwy profiadol, a bydd cyfle i fwynhau cacennau cartref a phaneidiau lu.
Mae mynediad am ddim, a chroeso cynnes i bawb – boed hwn eich ymweliad cyntaf neu beidio!
Bydd y Diwrnod Agored yn cael ei gynnal o 1:30 – 5:00 y.h. ar 27 Medi yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd LL52 0LW.