Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am ddiwrnod o sgyrsiau a chyflwyniadau dwyieithog gan arbenigwyr am rôl y celfyddydau yn y maes iechyd a llesiant. Bydd y diwrnod yn gyfle i wrando a dysgu yng nghwmni siaradwyr gwadd o feysydd celfyddydol amrywiol sy’n arbenigo mewn gweithio â phobl sy’n byw â dementia. Bydd hefyd digon o gyfle i drafod dros baneidiau a thros ginio.

Ymysg y siaradwyr y bydd Beti George, cyflwynydd radio ag ymgyrchydd diflino dros wella’r gofal sydd ar gael i unigolion sy’n byw â dementia. Ym mis Ebrill 2018 enillodd Beti wobr yng Ngwobrau Teledu a Ffilm Rhyngwladol New York Festivals am ei gwaith ar y rhaglen ddogfen Beti and David: Lost for Words oedd yn rhoi cip o’i bywyd yn gofalu am ei chymar, David.

Siaradwr arall fydd John Killick a fu’n barddoni gyda phobl sy’n byw â dementia ers 24 mlynedd. Lluniodd wyth cyfrol o gerddi o’r gwaith hwn sydd yn archwilio creadigrwydd a chyfathrebu yng nghyd-destun byw â dementia.

Bydd y bardd a’r dramodydd Patrick Jones yn ymuno â ni ac yn rhannu ei brofiadau o weithio fel ymarferydd cyson gyda phobl â dementia. Ef oedd awdur y ddrama Before I Leave, cynhyrchiad National Theatre Wales, sydd yn sôn am gôr i bobl sy’n byw â dementia wedi ei seilio ar straeon gwir. Bydd y cynhyrchiad yn ymddangos fel ffilm yn fuan.

Bydd hefyd cynrychiolwyr o Ffrindiau Dementia, cynllun gan y Gymdeithas Alzheimer, yn cynnal sesiwn ar ehangu ein dealltwriaeth ni o fyw gyda’r cyflwr.

Bydd mwy o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf.

Cychwynnodd y daith i drefnu’r diwrnod hwn yn dilyn llwyddiant Gwion Hallam yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 pan enillodd y Goron gyda’i gerdd Trwy Ddrych. Cerdd oedd hi a gafodd ei hysbrydoli gan waith Gwion yng Nghartref Dementia Bryn Seiont Newydd, Caernarfon a wnaed fel rhan o brosiect Llên er Iechyd a Llesiant Llenyddiaeth Cymru gyda nawdd Cyngor Gwynedd. Daeth y gerdd hon â sylw haeddiannol i elfen o’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan ymarferwyr celfyddydol mewn cartrefi gofal, a thu hwnt, gyda phobl sy’n byw â dementia. Diolch i hyn, cafwyd nawdd hael gan gangen leol o HSBC i’n galluogi i drefnu’r diwrnod hwn fydd, gyda lwc, yn sbarc i brosiectau tebyg yn y dyfodol.

….

Byddwn yn neilltuo awr yn y prynhawn ar gyfer Fforwm Agored, sef cyfle i unrhyw un siarad am y pwnc dan sylw. Bydd croeso i chi roi cyflwyniad byr, sgwrs, neu gynnal gweithdy 20 munud o hyd ynglŷn â’ch profiadau o weithio ym maes dementia a’r celfyddydau. Cysylltwch â ni i drafod eich syniad os oes diddordeb gennych: tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Mae’r diwrnod wedi ei anelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant, gwaith ymchwil yn y maes dementia a mwy. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 522811 neu ebostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org