“Slowing the Metabolism of Language”: ‘Poetry as Spiritual Practice’

Cyn Archesgob Caergaint ac ysgolhaig a adnabyddir yn rhyngwladol, Dr Rowan Williams yn sgwrsio â’r Athro M Wynn Thomas

Gyda chyflwyniad gan y Parch. Dr Barry Morgan

Derbyniad o 18:15

Ganwyd Dr Rowan Williams yn Abertawe a chafodd ei addysgu yn Ysgol Dynevor cyn astudio Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt ac ymchwilio i syniadaeth grefyddol Rwsia yn Rhydychen. Bu’n addysgu yn y ddwy brifysgol a chafodd ei benodi’n Esgob Trefynwy ym 1992. Ym 1999, fe’i hetholwyd yn Archesgob Cymru ac yn 2002 daeth yn Archesgob Caergaint. Ar ôl iddo ymddeol o’r rôl hon, bu’n Feistr Coleg Magdalen, Caergrawnt nes iddo ymddeol a symud i Gaerdydd yn 2020. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth am ddiwinyddiaeth, llenyddiaeth a materion cyfoes. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Collected Poems, yn 2021 ac mae wedi cyhoeddi antholeg o farddoniaeth grefyddol fodern yn ddiweddar, A Century of Poetry.

Mae’r Athro M. Wynn Thomas yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Is-lywydd Sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd Er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ef yw prif ysgolhaig Cymru ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru.

Archebwch eich tocynnau AM DDIM: bit.ly/rowanwilliams2023