Chwedlau amrywiol am greadigaeth y byd

Yn y dechreuad, dim ond gweledigaeth oedd y ddaear – rhith ddirgel heb seiliau cadarn. Myfyriodd y Creawdwr yn ddwys ac am amser maith gan siapio’r rhith yn ei feddwl. Yna, gafaelodd yn edefyn y rhith hwn a rhedeg, gan anadlu bywyd i’w freuddwydion a’u troi’n wirionedd…

Y chwedlau am greadigaeth y byd yw ein straeon hynaf, a’n rhai mwyaf treiddgar. Maent yn tarddu o hen hen Gyfnod y Breuddwydion. Yn wahanol i straeon eraill, caent eu hadrodd gyda difrifwch sy’n eu gosod ben ag ysgwydd uwchlaw rhai o’n straeon eraill mwy gwamal. Mae’r straeon yn archwilio patrymau bodolaeth, yn datgelu gwirioneddau am ein bywydau a’r bydysawd. Maent yn straeon am reddf. Maent yn straeon sylfaenol. Maent yn mynegi gwirionedd heb nodi’r un ffaith.

Yn ein hoes brysur, gyflym, llawn ffeithiau yma, mae gofyn i ni ailystyried y byd a’n lle ni yn y byd, i ddod o hyd i lwybrau cynaliadwy a thosturiol i’n cario drwy gynnwrf dryslyd ein cyfnod. Efallai y gall ail-ymweld â’r straeon hynafol hyn ein hysbrydoli a’n helpu.

Ar yr encilion yma rydym bob amser yn treulio diwrnod yn cerdded mynyddoedd, dyffrynnoedd ac arfordiroedd arbennig gogledd Cymru…un o’r tirweddau daearyddol a mytholegol cyfoethocaf Ynysoedd Prydain. Gofynnwn yn garedig i chi ddod â dillad addas gyda chi i gerdded ychydig filltiroedd dros y tir.