Mae’r syniadau’n llond eich pen. Mae’n bosib bod geiriau eisoes rif y gwlith ar y dudalen. Ond i ble’r ewch chi nesaf? Dyma’r wythnos a fydd yn rhoi’r atebion ichi. Yma yn Nhŷ Newydd, bydd Louis a Tiffany yn deffro’ch dychymyg mewn gweithdai ymarferol ym myd ffuglen a barddoniaeth. Bydd cyfle i arbrofi â ffurf a thechnegau adrodd stori, ac i ganfod ffyrdd newydd o roi trefn ar eich meddyliau a’ch deunydd. Yn y prynhawniau, fe gewch chi drafod eich gwaith ar eich pen eich hun gyda’r tiwtoriaid, a hynny wyneb yn wyneb. Wythnos gefnogol, gynhyrchiol, greadigol a llawn hwyl fydd hon. Rydych chi’n sicr o syrthio mewn cariad drachefn â’r broses ysgrifennu, gan gael hwb i ddyfalbarhau ar ôl i’r cwrs ddod i ben.