1.00 am – 4.30 pm

Ar yr un llaw, mae ysgrifennu ffuglen ffantasi a gwyddonias yn ymddangos yn haws na ffuglen realaidd – does dim angen glynu at y byd go iawn a gellir rhoi bron i unrhyw beth sy’n dod i feddwl yr awdur ar y dudalen! Serch hynny mae’r rhyddid hwnnw yn cynnig heriau difrifol hefyd o ran creu synnwyr wrth greu bydoedd, cymeriadau a straeon credadwy sy’n cynnal diddordeb y darllenydd. Dyma gyfle i ddod ynghyd ag awduron eraill, boed yn newydd neu’n brofiadol, i drafod sut i fynd ati. Byddwn yn trafod syniadau, a chymharu phrofiadau’r rhai sydd eisoes wedi rhoi tro arni; byddwn yn astudio datblygiad y genres hyn yn yr iaith Gymraeg, yn troi’n llaw at ychydig o ysgrifennu, a hyn oll dan arweiniad un o’r awduron ffantasi a gwyddonias mwyaf cynhyrchiol yn y Gymraeg heddiw.

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety.

Ifan Morgan Jones

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golwg ac yn olygydd gwefan newyddion golwg360. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cyhoeddodd ei nofel ffantasiol, Dadeni, yn 2017 a’r nofel agerstalwm (steampunk) gyntaf yn y Gymraeg, Babel, yn 2019. Cyhoeddir ei nofelau oll gan Y Lolfa. Bu’n feirniad ar gystadlaethau llên ffantasi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ef yw sefydlydd Nation.Cymru, gwefan newyddion Gymreig annibynnol newydd sydd yn ceisio llenwi bwlch o ran darpariaeth newyddion di-duedd yng Nghymru.