Manylion: Mae Jo Bowers yn gwahodd unrhywun sydd wedi ymrwymo i ddatblygu awydd, pleser ac ymglymiad plant fel darllenwyr i ymuno yn ein Grŵp Darllen OU/UKLA (Prifysgol Agored/Cymdeithas Llythrennedd y DU). Rydyn ni’n anffurfiol, cyfeillgar a chefnogol, a gobeithiwn bydd athrawon, llyfrgellwyr a staff cynorthwyol yn ymuno â ni yn y cyfan o’r chwe sesiwn Datblygiad Proffesiynol.

 

Byddwn yn archwilio’r adnoddau ennyn brwdfrydedd sydd ar wefan addysgeg newydd y Brifysgol Agored – ‘OU Research-Rich Pedagogies’ – ac yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu haddysgeg ‘Darllen er mwyn Pleser’, eu gwybodaeth am lenyddiaeth i blant a’r plant fel darllenwyr, ac yn eu galluogi i adeiladu cymunedau darllen o fewn a thu hwnt i’r ysgol.

 

Ymhle: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Cyncoed, Cyncoed, CF23 6XD

 

Pryd: Dydd Mercher Tachwedd 7 4.15pm-5.30pm, Ystafell: B2.05

Y 5 sesiwn canlynol: Tachwedd 21ain/ Chwefror 6ed/ Mawrth 6ed/ Mai 8fed/ Mehefin 5ed

I neilltuo eich lle, e-bostiwch: jbowers@cardiffmet.ac.uk

https://researchrichpedagogies.org/research/reading-for-pleasure