Gweithdy gwehyddu ac adrodd straeon gyda’r artist Kandace Siobhan Walker. Dewch i ddysgu’r technegau sylfaenol i greu rhwyd bysgota fach, wrth i ni wrando ar straeon gwerin Geechee.

 

Awdur a gwneuthurwr ffilm Gullah-Geechee Jamaicaidd a anwyd yng Nghanada yw Kandace Siobhan Walker. Mae’n olygydd i bath magg. Cafodd Wobr Eric Gregory ac enillodd Wobr y Bardd The White Review yn 2021. Bydd ei phamffled farddoniaeth gyntaf, Kaleido, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Bad Betty yn 2022. Cafodd ei magu yng Nghymru ac mae’n byw yn Llundain. Caiff ei chynrychioli gan Abi Fellows yn The Good Literary Agency.

Y digwyddiad hwn yw rhan o’r rhaglen gyhoeddus Call the Waves. Arddangosfa grŵp a rhaglen gyhoeddus yw Call the Waves, sy’n archwilio cysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda gwahanol gyrff dŵr. Mae Call the Waves yn dod â gwaith newydd ynghyd gan yr artistiaid, y cerddorion, a’r haneswyr Alia Mossalam, Bint Mbareh, Fern Thomas, Kandace Siobhan Walker, Maya Al Khaldi a Noureddine Ezarraf. Mae’r prosiect wedi’i gyd-guradu gan SWAY QANAT, a gynhelir ar y cyd gan Francesca Masoero, Louise Hobson a Shayma Nader.