Bydd gŵyl gymunedol newydd, rhad ac am ddim, yn cael ei chynnal ym Mangor mis yma, gan ddod â pherfformiadau byw, gweithdai creadigol, stondinau bwyd a diod a llawer mwy i’r ddinas.

Wedi’i drefnu gan Frân Wen gyda chymorth partneriaid, mae Gŵyl Adda Fest yn ddigwyddiad awyr agored, sy’n cael ei gynnal rhwng 2-10yp ar ddydd Sadwrn 28 Medi.

Fel rhan o’r diwrnod, dewch i weld digwyddiad ‘geiriau llafar’, efo beirdd yn cynnwys Lowri Hedd, Meleri Davies a Gareth Evans-Jones yn rhannu darnau.

Ond nid fyddai’n ddigwyddiad Frân Wen heb dipyn bach o theatr fyddai hi! Bydd yr ŵyl hefyd yn set i ail ran eu cynhyrchiad diweddaraf, Olion.

Mae nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i roi help llaw yn yr ŵyl. Allwch chi helpu? Ebostio sophie@franwen.com am mwy o wybodaeth.