Penwythnos llawn o hel straeon am fyd natur, amgylchedd a thirweddau Cymru. Cymysgedd difyr o sgyrsiau, trafodaethau, ffilmiau, cerddoriaeth, gweithdai, lansiadau llyfrau, adnabod afalau a thaith gerdded hanesyddol yn nhirwedd llechi Eryri. Dewch i gyfarfod a chlywed gan nifer o’n sgwennwyr, yn cynnwys:
– Carwyn Graves;
– Sian Northey;
– Ben Williams;
– Jon Gower;
– Lowri Hedd Vaughan;
– Ruth Morgan, Rhiannon Mair, Bethan Mai, Mari Morgan (awduron Almanac: O Fis i Fis);
– Sian Melangell Dafydd;
– Ben Porter;
– Dei Tomos.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ymlaen llaw, chwiliwch am Gŵyl Cynhaeaf Arall ar wefan www://gwylarall.com