
Gwyl Fach Maldwyn
Gwyl lenyddol i blant ac oedolion ifanc.
Wedi’i chynnal ar y cyd â Firefly Press, cyhoeddwyr arbenigol ar ysgrifennu i blant, mae Monty Minifest yn falch iawn bod Nicola Davies, Bardd Plant Cymru newydd, yn brif gyneddfwr yr ŵyl ar ddydd Sul 14 Mehefin.
Bydd Nicola Davies yn cau’r Mini Fest gan siarad am ei llyfrau Skrimsli a The Song That Sings Us yn ogystal â dweud wrthym am ei gwaith fel Bardd Plant Cymru.
Mae Mini Fest yn dechrau gyda Amser Stori i’r rhai o dan 7 oed, ac yna sgwrs gan Sharon Marie Jones am ei chyfres o lyfrau Grace-Ella sy’n adrodd hanes gwrach ifanc.
Bydd Rhiannon Oliver yn rhannu manylion am ei llyfr barddoniaeth cyntaf i’r rhai dros 8 oed, Fresh, sydd wedi’i ddarlunio’n wych gan neb llai na Chris Riddell.
Yna cawn glywed gan Emma Rea am ei llyfr, Entangled, sydd wedi’i osod yn Venice.
Bydd pob sesiwn yn rhyngweithiol, gyda chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau, ac yna sesiwn llofnodi llyfrau a drefnir gan Booka Bookshop.
Ewch draw i’n gwefan am ragor o wybodaeth!