Dewch i fwynhau perfformiadau, gweithdai, lansiadau a sgyrsiau yng ngŵyl farddoniaeth Barddas – y Gymdeithas Gerdd Dafod.
Yn ystod Gŵyl Gerallt bydd rhai o feirdd gorau Cymru yn ymrysona, bydd gweithdai barddoniaeth i blant gan Fardd Plant Cymru Casi Wyn, a chawn glywed wrth Brifeirdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Ymunwch â Mererid Hopwood, Llŷr Gwyn Lewis, Esyllt Maelor, Elinor Wyn Reynolds, Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, Casi Wyn a llawer mwy!
Tocynnau ar werth yn fuan!