Ymunwch â Nia Morais (Bardd Plant Cymru 2023–2025) yn y gweithdy hwn i ysgrifennu eich stori ysbryd eich hun. Byddwch yn dysgu sut i greu tensiwn ac awyrgylch yn eich ysgrifennu a fydd yn dychryn ac yn swyno eich cynulleidfa.

 

Dewch â’ch llyfr nodiadau a phen neu bensil eich hun i’r digwyddiad hwn. Digwyddiad i bobl 12+ oed.