Mae’r perfformiad barddoniaeth bywiog hwn yn eich cyflwyno i ddreigiau, mawr a bach, ac yn eich gwahodd i ymuno â nhw wrth iddynt hedfan! Mae And I Hear Dragons, a olygwyd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yn gasgliad llawen o farddoniaeth plant o bob rhan o Gymru, gyda cherddi gan Children’s Laureate Wales, Alex Wharton, Bardd Plant Cymy, Nia Morais, a chyn Fardd Plant Cymru, Casi Wyn, ymhlith eraill.

Dewch i ddathlu amrywiaeth ac egni barddoniaeth o Gymru ar gyfer plant a phobl ifanc.

Digwyddiad teulu, 8+ oed.