Ar gyfer pwy?

Unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol sydd â diddordeb mewn cyhoeddi eu llyfr eu hunain.

Nod

Rhoi’r sgiliau i weithwyr llawrydd creadigol i’w galluogi i gynhyrchu llyfr a’i gyhoeddi eu hunain.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y gweithdy dylech gallu:

  • Datblygu strategaeth hunan-gyhoeddi wedi’i llywio gan ddealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd hunan-gyhoeddi
  • Cynhyrchu llyfr gyda chynnwys a chynllun proffesiynol
  • Defnyddio offer a gwasanaethau cynhyrchu llyfrau
  • Gwerthu’r llyfr dros y Rhyngrwyd

Cynnwys

Bydd cyfranogwyr yn cael trosolwg o botensial hunan-gyhoeddi yn 2021, gan gynnwys yr offer a’r cyfleoedd sydd ar gael yn ogystal â rhai o’r costau.

Yna byddant yn gwneud gwaith ymarferol drwy baratoi eu testun eu hunain i’w gyhoeddi, gan edrych yn arbennig ar broblemau prawf ddarllen ac opsiynau gosodiad.

Yn ystod egwyl hanner ffordd trwy’r sesiwn, byddant yn gweithio ar eu testun eu hunain gyda chefnogaeth ar-lein gan yr Hyfforddwr.

Ar ôl dychwelyd i’r grŵp, bydd cyfranogwyr yn mynd trwy’r broses o roi eu testun ar werth ar amryw lwyfannau.

Bydd y rhan olaf o’r sesiwn yn edrych ar ddulliau llwyddiannus ar gyfer marchnata’r llyfr i ddarllenwyr.

 

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg /This workshop will be run in English