Mae Abaty Ystrad Fflur wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r celfyddydau ers canrifoedd.

Ymunwch â Cadw ar un o’u diwrnodau ‘Ysbrydolwyd gan’.

Mae Ystrad Fflur wedi bod yn ysbrydoli beirdd ers y canol oesoedd. Bydd ein tiwtor barddoniaeth lleol wrth law i gynghori ac annog, p’un ai ydych chi’n ddechreuwr, eisiau gwella eich sgiliau neu’n chwilio am ysbrydoliaeth!

 

Bydd beiros a phapur ar gael.

 

Digwyddiad yn yr awyr agored.