Credaf mai fy mywyd i fy hun yw’r thema fwyaf y gwn amdani. Nid oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i Kate Roberts, 1947

Carys Gwilym sy’n portreadu Kate Roberts mewn sioe un dynes sydd yn dilyn taith bywyd un o awduresau pwysicaf Cymru. Ac o ddilyn hanes dynes gyffredin a fagwyd ar aelwyd o dlodi chwarelyddol yn Rhosgadfan ac a welodd effaith y Rhyfel Mawr ar ei theulu ac ar gymdeithas byddwn yn deall sut a pham roedd hi’n ysgrifennu.

Gwerinwraig genedlaetholgar sydd yma ac er bod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebal styfnig oedd Kate yn y bôn – dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion ac yn un a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Roedd hi’n gweld anhegwch ac anghydbwysedd yn y byd ac mae wedi cael ei berniadu’n aml am fod yn besimistaidd ond gweld y gwir oedd hi – y gwir sy’n ddarn o hanes ein gwlad – a hynny drwy ei bywyd hi ei hun.

Mae modd prynnu tocynnau yma.