Dewch i wrando ar y bardd Siôn Aled Owen a’r artist Iwan Bala yn trafod eu cyfrol newydd a sut y daeth i fod. Dyma gyfle unigryw i wrando ar ambell i gerdd ac i edrych ar waith celf . Mae ymateb y ddau i ddigwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn grafog a gonest. Dewch i gwrdd â’r ddau gymeriad mewn digwyddiad byw yn rhan o Gŵyl Newydd 2021. Bydd copiïau o’r gyfrol ar gael i’w prynu ar y noson.