Ymunwch â’r beirdd Patrick Jones a Susie Wild, sy’n gyn-fyfyrwyr o Abertawe, wrth iddynt ddarllen o’u casgliadau diweddaraf, ‘Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) a ‘Windfalls’.

Wedyn bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda’r gynulleidfa.

Mae Patrick Jones yn awdur chwe drama, tri albwm gair llafar, naw llyfr barddoniaeth ac awdur geiriau’r caneuon ar yr albwm Even in Exile (James Dean Bradfield). Ar hyn o bryd, ef yw’r Awdur Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ac mae’n addasu ei ddrama o 2016, Before I Leave, i’w ffilmio. Cafodd ei eni yn Nhredegar, Cymru. Ei lyfr diweddaraf yw argraffiad arbennig o Fuse/Fracture (Poems 2001-2021) i ddathlu 20 mlynedd ers ei gyhoeddi. Mae ganddo bedwar o blant a dwy gath ac mae’n byw wrth odre mynydd.

www.patrick-jones.info twitter: @heretic101

FUSE / FRACTURE (POEMS 2001-2021): Argraffiad i ddathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi’r casgliad, â rhagair gan James Dean Bradfield. Drwy’r galarganeuon, y caneuon protest a’r rhyfelgrïoedd hyn, mae Jones yn annerch ac yn siarad ar ran y rhai ar yr ymylon, gan dystio i faterion cyfoes a gwleidyddol. Mae 28 cerdd newydd hefyd yn ymdrin â materion personol; cânt eu haflonyddu gan ysbrydion y byw a’r meirwon. Dyma fap o greithiau lle trigai cariad unwaith.

Mae Susie Wild yn awdur dwy flodeugerdd, Windfalls a Better Houses, y casgliad o straeon byrion, The Art of Contraception, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Edge Hill, a’r nofel fer, Arrivals. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar yn Poetry Wales, ym mhrosiect y pandemig Carol Ann Duffy, Write Where We are Now, The Atlantic Review ac Ink, Sweat & Tears. Mae hi hefyd yn Olygydd Cyhoeddi yn Parthian Books, gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen. Ar hyn o bryd, mae’n byw mewn croglofft ar rodfa ddeiliog yng Nghaerdydd.

http://susiewild.blogspot.com

twitter: @Soozerama

WINDFALLS:

Yn Windfalls, mae Wild yn ysgrifennu am ffrwythau wedi’u bwrw i’r ddaear gan y gwynt, am enillion annisgwyl a heb eu hennill sy’n adnewyddu harddwch a llawenydd bywyd. Dyma straeon hefyd am arwresau sy’n cwympo neu’n neidio o bedestal, gan fentro mewn byd sydd yn aml yn beryglus i fenywod, ond yn gwrthod bodloni ar fywyd confensiynol. Mae Wild yn parhau i gyflwyno ei safbwynt anghyffredin a ffres ar fywyd, boed drwy ddadansoddi’r byd domestig, gwleidyddol neu amgylcheddol.