Diwrnod o lenyddiaeth, trafodaethau a gwneud ffrindiau newydd yn Nyffryn Wysg. Yn dychwelyd am ei degfed flwyddyn, mae Llenyddiaeth Caerllion yn ddathliad o lenyddiaeth wedi’i lleoli o fewn tiroedd hardd Gwesty’r Priordy. Mae’n dod â awduron cyfoes Cymru ynghyd ac yn cynnig gwledd o drafodaeth, syniadau a myfyrdodau. Bydd siop lyfrau dros dro yn cael ei darparu gan Chepstow Books. Ymhlith yr awduron eleni mae Sam Adams, Rebecca F. John, Carole Hailey a Des Mannay. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda’r darlledwr a’r awdur Jon Gower yn sgwrsio â Mike Parker.