Sioe farddoniaeth amlgyfrwng sy’n edrych ar hanes Hedd Wyn o’r newydd, gan archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.

Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2017, mae Y Gadair Wag yn dychwelyd i theatrau a neuaddau ledled Cymru fis Chwefror a Mawrth eleni.

Yn 2017 roedd hi’n 100 mlynedd union ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig).

Un o’r rhai a laddwyd yn y frwydr honno oedd Hedd Wyn, y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu.

Mae Y Gadair Wag, a grëwyd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru ac a gyfarwyddwyd gan Ian Rowlandsgyda chelf ddigidol gan Jason Lye-Phillips, yn archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth. Mae’n defnyddio ffilm a thechnegau arbrofol i edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd.

“Gwledd i’r llygad a’r glust!” Lowri Roberts (Athro)

Noddir y daith gan Yr Ysgwrn, Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan S4C Yr Egin.

DYDDIADAU’R DAITH:

  • 13 Chwefror, 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 14 Chwefror, 1.30 pm a 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 15 Chwefror, 1.30 pm**, Yr Egin, Caerfyrddin
    Tocynnau: helo@yregin.cymru / 01267 611600
  • 18 Chwefror, 1.00 pm**, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe
    Tocynnau: 01792 602060 / www.taliesinartscentre.co.uk
  • 19 Chwefror, 7.00 pm**, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
  • 20 Chwefror, 10.30 am a 7.00 pm, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
    Tocynnau: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266
  • 21 Chwefror, 7.30 pm, Canolfan Garth Olwg, Pontypridd
    Tocynnau: 01443 570075 / www.garth-olwg.cymru / llcreception@garth-olwg.cymru
  • 13 Mawrth, 1.00 pm a 7.30 pm, Galeri, Caernarfon
    Tocynnau: 01286 685222 / www.galericaernarfon.com
  • 14 Mawrth, 12.30 pm a 7.00 pm**, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
  • 15 Mawrth, 10.30 am a 12.30 pm, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
    Tocynnau: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru / 01766 772508

** Sioe amlieithog
NODYN: Mae’r perfformiadau yn y Gymraeg, oni nodir yn wahanol.

Nifer cyfyngedig o docynnau ar gael – archebwch nawr.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org