Bydd tri awdur a oedd ar restr fer categori ffuglen Saesneg gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 yn ymddangos yng Nghanolfan Cymru Llundain nos Lun 5ed Rhagfyr am 7pm i ddarllen a thrafod eu gwaith.

Ymhlith yr awduron mae Rhiannon Lewis, awdur I Am the Mask Maker, Siân Hughes, awdur Pain Sluts, a Nadifa Mohamed, awdur The Fortune Men, a enillodd y categori ffuglen a gwobr Llyfr y Flwyddyn. Roedd The Fortune Men ar restr fer Gwobr Booker 2021 a Nofel y Flwyddyn Costa.

Bydd y noson yn cael ei chadeirio gan Andy Welch, newyddiadurwr, awdur, a Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol Guardian News and Media, a oedd yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn.