Bydd Meleri Daviesyn holi Sioned Erin Hughes am ei gwaith a’i phrosesau creadigol. Ymysg y pynciau trafod bydd ei chyfrol newydd, O’r Rhuddin – 365 o fyfyrdodau mewn blwyddyn (Y Lolfa), a’r sialens o ysgrifennu’n ddyddiol.

Yna i ddilyn bydd Casia Wiliam yn arwain sesiwn meic agored Llên Mewn Lle. Bydd croeso i unrhyw un rannu darn o waith – yn farddoniaeth neu’n ryddiaith, dwys neu ddigri, mewn unrhyw iaith. Cofrestru ar y noson.

Mae’r noson yn rhan o Ŵyl Gwenllian wedi ei drefnu gan Partnerieth Ogwen a’r gymuned.