O’r ymwelydd anfodlon Jonathan Swift hyd at sylwadau treiddgar
awduron cyfoes, dewch i wrando ar ymatebion o’r galon i dref a phorthladd Caergybi!
Mae’r noson wedi ei threfnu ar y cyd rhwng prosiectau Porthladdoedd, Ddoe
a Heddiw a Teithwyr Chwilfrydig, i gyd-fynd ag arddangosfa Cysylltiadau
Creadigol yn Ucheldre. Bydd yr awduron Angharad Price a Julie Brominicks
yn ymuno â ni i gyflwyno darlleniadau o’u gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Digwyddiad am ddim gyda lluniaeth ysgafn: cofiwch fwcio lle