Tiwtoriaid / Belinda Bauer & Sharon Bolton

Mae darllenwyr wrth eu boddau â ffuglen trosedd – dyna pam fod cymaint o awduron eisiau ei ysgrifennu. Beth am gael blaen arni gyda chymorth gan ddwy brofiadol? Efallai fod gennych syniad da, ond bod angen cymorth arnoch i’w gael ar bapur; neu efallai eich bod yn golygu drafft cyntaf. Bydd yr awduron trosedd arobryn Sharon Bolton a Belinda Bauer yn eich tywys trwy driciau’r byd ffuglen trosedd, gan ganolbwyntio yn benodol ar finiogi eich plot. Bydd y cwrs yn edrych ar gymeriadu, creu naws, troeon yn y gynffon, a hynny drwy weithdai grŵp a thiwtorialau un-i-un. Os nad ydych chi’n gwybod lle i gychwyn eich nofel – na sut i’w gorffen hi chwaith – dyma’r cwrs i chi.