Treuliodd Common/Wealth bymtheg mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd theatr wleidyddol. Yn eu llyfr newydd, Do It Yourself, maen nhw’n rhannu eu dull arbrofol ac ymgyrchol o greu perfformiadau, yn seiliedig ar egwyddorion DIY a’r gred y gellir creu theatr arloesol gydag unrhyw un, mewn unrhyw le, mewn ffyrdd sy’n wirioneddol taro deuddeg â’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Mae Do It Yourself yn cyflwyno ethos artistig a gwleidyddol Common/Wealth, gan roi cipolwg unigryw ar eu perfformiadau mwyaf arwyddocaol ac yn cynnig ymarferion ymarferol ar gyfer creu eich gwaith eich hun. Ond nid llawlyfr yn unig mo hwn. Mae’n ddathliad o ddiwylliant fel ymdrech ar y cyd, un a all herio’r statusquo ac ysbrydoli newid.

Dathlwch y lansiad gyda pherfformiadau wedi’u curadu gan y cwmni.