
Michael Rosen: Noson o Hwyl, Cerddi a Straeon i Bawb
‘Y Ddarlith Rhys Davies Flynyddol Agoriadol yn Llyfrgell Glowyr De Cymru’.
‘Michael Rosen: Noson o Hwyl, Cerddi a Straeon i Bawb’
Mae Michael Rosen yn un o hoff ysgrifenwyr a beirdd perfformio i blant ac oedolion ym Mhrydain. Cafodd ei radd gyntaf mewn Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg o Goleg Wadham, Rhydychen ac aeth ymlaen i astudio am MA ym Mhrifysgol Reading a PhD yng nghyn Brifysgol Gogledd Llundain, Metropolitan Llundain erbyn hyn.
Ar hyn o bryd mae’n Athro Llenyddiaeth Plant yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain lle mae wedi cyd-lunio ac addysgu ymagweddau beirnaidol at ddarllen ar MA mewn Llenyddiaeth Plant ar ôl gwneud yr un peth yn Birbeck, Prifysgol Llundain. Mae wedi addysgu ar gyrsiau MA mewn prifysgolion ers 1994.
Michael oedd Bardd Llawryfog y Plant o 2007 i 2009 ac mae wedi cyhoeddi dros 200 o lyfrau i blant ac oedolion, gan gynnwys y llyfr ymysg y goreuon diweddar Many Different Kinds of Love’ ac ‘On The Move.