Noson barddoniaeth Cwm Aber Tatws Siôn Cent
Ymunwch â ni ddydd Sul 7 Mehefin ar gyfer lansio pedwerydd llyfryn barddoniaeth Cwm Aber.
Os bydd y tywydd yn ffafriol, byddwn yn cwrdd yng Ngardd Goffa Senghenydd am 3pm i glywed darlleniadau gan rai o’r beirdd dan sylw, cyn mynd i lawr i Top Club am ddetholiad o ffilmiau byrion a meic agored.
Croeso i bawb, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim – dewch draw i ddathlu barddoniaeth a chreadigrwydd lleol gyda ni! Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth