Grŵp Llyfrau yw Cardiff BookTalk lle gwahoddir siaradwyr gwadd i drafod ffuglen glasurol a chyfoes, yn aml llyfrau gan awduron Cymreig. Yn dilyn dwy flynedd o ddigwyddiadau ar-lein yn bennaf oherwydd Covid, rydym wedi penderfynu lansio nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb i awduron a ‘Free Love: an audience with Tessa Hadley’ fydd y cyntaf yn y gyfres hon.

Bydd Tessa yn sgwrsio gyda Susan Morgan sy’n dysgu ysgrifennu creadigol a beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd ac sy’n gydlynydd BookTalk Caerdydd. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Bydd y digwyddiad, sydd â chefnogaeth Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru, yn cael ei recordio. Archebwch eich tocyn am ddim yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-booktalk-free-love-in-person-registration-469937976137