
Panel Cyhoeddwyr Cymraeg
Ydych chi yn teimlo’n barod i gyhoeddi eich gwaith? Neu efallai eich bod yn cychwyn ar eich taith fel awdur, ac yn chwilfrydig i ddysgu mwy am y byd cyhoeddi.
Ymunwch â golygyddion profiadol o rai o brif weisg Cymru i ddysgu mwy am y broses o gomisiynu, golygu a chyhoeddi eich gwaith. Sut mae gyrru llawysgrif i wasg? Pa wasg sydd fwyaf addas i chi? Sut fath o waith mae ein gweisg yn edrych amdano ar hyn o bryd? Beth sydd angen cofio ei wneud, a beth y dylid ei osgoi? Bydd cyflwyniadau gan gynrychiolwyr o Wasg y Bwthyn, Cyhoeddiadau’r Stamp, Barddas a’r Lolfa, yna cewch wahoddiad i yrru cwestiynau at y panel i’w hateb yn fyw ar y noson.
Bydd sesiwn arall ar nos Fawrth 21 Hydref gyda phanel o gynrychiolwyr rhai o’r gweisg sy’n cyhoeddi gwaith drwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru.