Mae Caerdydd Greadigol yn cynnal parti Nadoligaidd ‘diwedd y flwyddyn’ i ddod â gweithwyr llawrydd creadigol a pherchnogion busnesau bach y ddinas at ei gilydd ar gyfer dathlu a chydweithio. Rydyn ni’n gwybod fod y sector creadigol yng Nghaerdydd yn llawn o unigolion gwych a thalentog. Ond os ydych chi’n weithiwr llawrydd creadigol, neu’n gweithio mewn sefydliad creadigol bach, efallai y byddwch yn colli allan ar y cyfle traddodiadol i ddod ynghyd â chydweithwyr yn ystod tymor yr ŵyl a dathlu llwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf. Yma yng Nghaerdydd Greadigol, dydyn ni ddim yn meddwl bod hynny’n deg iawn o gwbl. Dyna pam rydyn ni’n cynnal parti sydd wedi’i ddylunio i roi cyfle i symudwyr ac ysgwydwyr sector creadigol Caerdydd ddod at ei gilydd yn ysbryd yr ŵyl, gwneud cysylltiadau newydd a dathlu popeth sy’n gwneud cymuned greadigol y ddinas yn wych.

Bydd cerddoriaeth, dawnsio, perfformiadau, syrpreisys a gweithgareddau arbennig eraill.

Mae’r digwyddiad yn derbyn cymhorthdal gan Gaerdydd Greadigol, sy’n golygu mai dim ond £10 yw tocynnau, sy’n cynnwys diod wrth gyrraedd, bwffe poeth ac adloniant.

Mae’n bwysig iawn i ni fod y digwyddiad hwn yn gynhwysol ac yn agored i bawb a fyddai’n elwa o fynychu, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Os hoffech chi ymuno â ni, ond ddim yn gallu prynu tocyn ar hyn o bryd, cysylltwch drwy e-bostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu.

Mwy am The Moon

Mae The Moon yn leoliad cerddoriaeth byw, bar, clwb a chegin fegan ar Stryd enwog Womanby Caerdydd. Yn aelod o’r Music Venues Trust and Alliance, maent yn cynnal gigs aml-genre, nosweithiau clwb, gwyliau, cyfleoedd i godi arian a digwyddiadau. Ac yntau’n cael ei redeg fel ‘nid er elw’ gan Weriniaeth Greadigol Caerdydd, mae’r arian sydd wedi’i wneud yn mynd yn ôl i wella’r lleoliad a’r sîn gerddoriaeth leol.