Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru ar gyfer un o uchafbwyntiau llenyddol mwya’r flwyddyn. Yn dilyn derbyniad gwin yng nghwmni awduron a beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn, cewch ddarganfod, mewn seremoni fawreddog, pa lyfrau sydd wedi dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol, a pha enillwyr fydd yn mynd ymlaen i gipio’r brif wobr yn Gymraeg a Saesneg gan dderbyn y teitl Llyfr y Flwyddyn 2019.

Archebwch docyn gan Ganolfan y Celfyddydau:
Swyddfa docynnau: 01970 62 32 32
www.aberystwythartscentre.co.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266
post@llenyddiaethcymru.org
www.llenyddiaethcymru.org