Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant & Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn ystod yr haf. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am wobr Llyfr y Flwyddyn.

Cynhelir Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2020 yn Theatr y Werin, Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar nos Iau 25 Mehefin 2020.