Gwobr Llyfr y Flwyddyn yw prif wobr llenyddol Cymru, sy’n cynnig llwyfan hynod werthfawr i egin awduron ac awduron profiadol fel ei gilydd. Byddwn yn sgwrsio gyda rhai o’r awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2023 am eu cyfrolau, a beth fyddai ennill y Wobr yn ei olygu iddyn nhw. Digwyddiad Griffin Books mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru.

Awduron: Gareth Evans Jones, Gwenllian Ellis, Elinor Wyn Reynolds, Peredur Glyn, Llyr Titus, Menna Elfyn, Rhian Parry, ac Osian Owen.

Cymraeg fydd iaith y digwyddiad.