Ymunwch a Iola Ynyr, awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol, sy’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol.

Fe gipiodd Iola brif wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 gyda’i chyfrol buddugol, Camu. Yn y sesiwn anffurfiol a chymdeithasol hwn, bydd cyfle i glywed Iola yn sgwrsio am ei thaith i adferiad wedi iddi ddilyn rhaglen adferiad 12 cam wnaeth achub ei bywyd ar ôl cyfnodau tywyll o ddibyniaeth ar alcohol, sy’n sgerbwd i’w chyfrol.

Dewch yn llu, croeso cynnes i bawb, gyda’r sesiwn hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr.