Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad cerddorol meistrolgar ac egnïol AM DDIM yng Nghaban y Sgowtiaid, Arberth ddydd Sadwrn, Mehefin 6ed. Wedi’i leoli wrth ymyl Maes Parcio Gwaun y Dref, mae hwn yn lleoliad cymunedol hyfryd a hygyrch i gynnal y wledd gerddorol awr o hyd hyn.
Mae tocynnau AM DDIM, ond argymhellir archebu. Mae’r drysau’n agor o 11:30 y.b., gyda’r perfformiad yn dechrau am 12 y.p. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o’r adeg y bydd y drysau’n agor. Ar ôl y perfformiad, mae croeso i chi i aros a chyfarfod y cerddorion i ddysgu mwy amdanynt a’u hofferynnau hardd. Am ragor o wybodaeth, ewch i span-arts.org.uk neu ffoniwch ni ar 01834 869323.
Cyweithfa o gerddorion proffesiynol deinamig, pob un dan 30 oed, yw Sinfonia Cymru. Mae’r Sinfonia’n cefnogi cerddorion ifanc o Gymru ac o gwmpas y byd ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol. P’un ai bod nhw’n perfformio cerddoriaeth glasurol, cyfansoddiadau newydd neu gydweithrediadau cyffrous gyda cherddorion enwog o genres eraill, maent yn chwarae gydag angerdd, manyldeb ac ysbryd antur. Maent yn falch o berfformio lle mae cerddoriaeth fwyaf pwysig – mewn mannau lle mae cynulleidfaoedd yn teimlo’n gartrefol, o ganolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd i dafarnau, neuaddau pentref, ysgolion a thu hwnt.