Bydd Dafydd Davies-Hughes yn dod a’r coed yn fyw gyda chwedlau hynafol! A cewch glywed sut allwch chi gefnogi Llennyrch eleni.
Wrth gloddio’n ddwfn yn ei storfa o straeon gwerin, mi fydd Dafydd yn adrodd hanes y dewin Gwydion, o chwedlau’r Mabinogi, a ddaeth â byddin o goed yn fyw i ymladd wrth ei ochr mewn brwydr. Yn ôl y chwedl hon, ddigwyddodd y cyfan ychydig i lawer y ffordd yn ein coetir hynafol hardd Coed Felenrhyd!
Ymunwch am 5.30yh yng Nghaffi Prysor, LL41 4DT, am bowlen o gawl blasus gyda rholiau. Wedyn, gewch chi ymweld â’r gwahanol stondinau:
  • Prosiect Dyfodol Llennyrch – a darganfydd beth mae ein gwirfoddolwyr wedi ei wneud yn ystod 2019 a beth sydd o’n blaenau ar gyfer 2020
  • Coedwigoedd Glaw Celtaidd De Eryri – clywch am sut y gallwch ymgolli yn y coetiroedd hardd hyn trwy gydol 2020
Bydd Dafydd yn adrodd ei straeon rhwng 7.30yh a 9.30yh.
Addas ar gyfer oedolion.  Mae’r pris yn cynnwys cinio.
Mae angen neilltuo lle ymlaen llaw ac mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich lle yn fuan !