Ymunwch ar gyfer diwrnod o greadigrwydd, cymuned ac adrodd straeon yn yr hyfryd Insole Court yng Nghaerdydd. Mae’r digwyddiad hwn yn ran o’ brosiect diweddaraf Green Squirrel sef ‘Y Ferch Na Fyddai’n Ildio Byth’. Mae ein prosiect yn seiliedig ar chwedl Gymreig draddodiadol sy’n ymwneud â gobaith, gwytnwch, a grym pobl ifanc a chymunedau i greu newid anhygoel.

 

Bydd y stori’n cael ei hadrodd yn fyw yn ddwyieithog rhwng 11-1pm yn y buarth. Bydd amryw o weithgareddau o bob math yn digwydd trwy’r dydd gan gynnwys ysgrifennu creadigol a chreu llyfrnod! Mae manylion y gweithgareddau i’w cael yma.