Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria i’w fam yng Nghyymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn cryf, telynegol a chynnes gan y chwedleuwr blaenllaw Phil Okwedy.

Mae’r perfformiad hudolus yn gywrain yn plethu chwedlau, cân a straeon gwerin y diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn treftadaeth ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 1970au’.

Gan olrhain y cyfnod pan y dywedir fod plant yn ystyried eu rhieni fel duwiau, ond heb iddo ef ei hun erioed fyw gyda nhw mewn gwirionedd, mae Phil yn ystyried os oedd ei rieni, mewn gwirionedd, y duwiau y gwnaeth eu dychmygu i fod…

Drwy ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a chael eich magu heb eich rhieni gwaed, mewn perfformiad teimladwy, doniol a hiraethus, mae The Gods Are All Here ar yr un pryd yn stori heb amser ac eto’n bendant iawn yn stori am heddiw.

“Dweud stori gwych, gan gyfuno straeon personol, traddodiadol ac a ail-ddychmygwyd mewn ffordd unigryw. Teimladwy a diddorol iawn, rydych bob amser eisiau gwybod ‘beth ddigwyddodd nesaf.” Aelod o’r gynulleidfa

“Cafodd y sioe wefreiddiol hon ei saernïo’n anhygoel” – Rufus Mufasa

Lluniwyd a pherfformiwyd gan Phil Okwedy
Cyfarwyddir gan Michael Harvey

Cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru, ac wedi’i ariannu gan y Loteri
Cefnogir gan Theatrau Sir Gar