
‘The House of Water’: Fflur Dafydd mewn sgwrs gyda Jane Fraser
Beth rydych chi’n ei wneud pan fydd eich tŷ dan ddŵr, dieithryn marw yn eich gwely a’ch teulu cyfan wedi cael eu lladd?
‘The House of Water’, yw nofel ddiweddaraf yr awdur a’r sgriptiwr ffilmiau arobryn Fflur Dafydd, ac mae’n llyfr o gyffro seicolegol gyda thref yng Nghymru sydd wedi cael ei tharo gan lifogydd yn gefndir i’r stori. Mae’n stori o gyfrinachau cuddiedig, etifeddiaethau teuluol a hunaniaeth, lle un noson y mae menyw ifanc yn rhoi ei hallwedd yn agoriad ei chartref teuluol – dim ond i sylweddoli, yn y foment honno, bod ei bywyd ar fin newid am byth.
Gan gyfuno tensiwn â dyfnder llythrennol, mae’r nofel hon yn archwilio’n grefftus ystod o themâu cyfoes – galar, perthyn, iechyd meddwl a newid yn yr hinsawdd – oll wrth drochi darllenwyr yn niwylliant, iaith a threftadaeth gyfoethog Cymru. Yn procio’r meddwl ac yn amhosib ei roi o’r neilltu, nid yw The House of Water fel unrhyw lyfr arall y byddwch yn ei ddarllen, a bydd yn aros gyda chi yn hir ar ôl y dudalen olaf.
Am yr awdur…
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd arobryn, yn gerddor ac yn sgriptiwr ffilmiau sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. A hithau wedi graddio gydag MA Ysgrifennu Creadigol o UEA, mae’n gyn-Gymrawd Rhyngwladol o Ŵyl y Gelli ac yn gyn-fyfyriwr o Raglen Ysgrifennu Rhyngwladol nodedig Prifysgol Iowa. Mae hi hefyd wedi cael ei henwebu am sawl gwobr BAFTA Cymru am ei gwaith sgriptio ffilmiau. Mae hi’n byw yng ngorllewin Cymru gyda’i gŵr a’i dwy ferch.
Mewn partneriaeth a Siop Lyfrau Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg